Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar gyfer Plant a Phobl Ifanc

Assembly Cross-Party Group for Children and Young People

Gofalwyr sy'n Berthnasau yng Nghymru

Dydd Mawrth 1 Mawrth 2016

 

Yn bresennol:

Julie Morgan AC, Cadeirydd

Helen West, Gweinyddwr i Julie Morgan AC

Nancy Cavill, Uwch Swyddog Ymchwil i Julie Morgan AC

Paula Foley, Gweithiwr Achos Jenny Rathbone AC

Kathy S'Jacob, Cymdeithas ar gyfer Maethu a Mabwysiadu Cymru

Trevor Evans, Aelod o Plant yng Nghymru

Ruth Lee, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Caerffili

Andrea Storer, Plant yng Nghymru

Arfon Jones, Gobaith Cymru

Leigh Dirkzwagger, Gofalwr sy'n Berthynas

Mandy Steer, Gofalwr sy'n Berthynas

Julia McIntyre, Gofalwr sy'n Berthynas

Paula Stonelake, Rhondda Cynon Taf, Tîm Gofal gan Berthnasau

Paula Daniel, Y Bont

Emily Philips, Y Bont

 

Ymddiheuriadau: Jenny Rathbone AC, Dave Jewel, Gofalwr sy'n Berthynas

 

Croeso

Croesawodd Julie Morgan AC bawb i'r cyfarfod ac ymddiheurodd ymlaen llaw y byddai angen iddi adael y cyfarfod yn gynnar oherwydd pleidlais yn y Siambr. Yna, fe drosglwyddodd yr awenau i Andrea Storer o fudiad Plant yng Nghymru i gychwyn y drafodaeth.

 

Cyflwyniad gan fudiad Plant yng Nghymru

Rhoddodd Andrea drosolwg byr o'r sefyllfa bresennol o ran gofal gan berthnasau yng Nghymru.  Dywedodd mai teidiau a neiniau yw mwyafrif y gofalwyr sy'n berthnasau, a bod mwyafrif y plant a’r bobl ifanc sy'n byw gyda pherthynas i’w cael yn ardaloedd Merthyr Tudful a Blaenau Gwent, y ddau Awdurdod Lleol sydd â'r lefelau uchaf o amddifadedd. Cyfeiriodd Andrea at y Canllaw Gofal gan Berthnasau i Gymru, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gynhyrchwyd gan Plant yng Nghymru gyda chymorth grwpiau cefnogi teidiau a neiniau Caerdydd a Chasnewydd.  Pwysleisiodd fod angen dull mwy strategol o asesu a gwasanaethau cymorth i ofalwyr sy'n berthnasau.  Mae iechyd a lles plant yn hollbwysig, ac weithiau mae angen cymorth ar ofalwyr sy'n berthnasau i ddelio ag ymddygiad heriol er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i bawb.

 

Lleisiau Gofalwyr sy'n Berthnasau: Leigh Dirkzwagger, Gofalwr sy'n Berthynas a Chadeirydd Grandparents Raising Grandchildren, Caerdydd.

 

Dechreuodd Leigh ei chyflwyniad drwy ofyn i bawb gau eu llygaid a dychmygu eu hunain mewn sefyllfa pan ddaw cnoc ar y drws neu pan ddaw galwad ffôn yn y gwaith a hwythau'n cael cais i ofalu am eu nithoedd, eu neiaint, neu eu hwyrion. Beth fyddech chi'n ei wneud? Sut fyddai hyn yn effeithio ar eich bywyd? Mae hyn yn realiti i filoedd o ofalwyr sy'n berthnasau.

 

Aeth Leigh rhagddi i dynnu sylw at rai o'r problemau y mae hi a gofalwyr eraill sy'n berthnasau yn eu hwynebu. Mae sefyllfa pawb yn wahanol ac mae pobl yn aml yn ofni'r gwasanaethau cymdeithasol; nid ydynt yn deall y system neu eu hawliau. Dywedodd fod teidiau a neiniau yn gwneud eu gorau glas i ddarparu cartrefi cariadus, gofalgar ar gyfer eu hwyrion, ond mae angen help arnynt, mae angen rhywun i fod yn gefn iddynt, er enghraifft, gweithiwr cyswllt rhwng gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr / grwpiau cefnogi.  Pwysleisiodd pe bai rhwydwaith cymorth da a chadarn i ofalwyr sy'n berthnasau, byddai rhagor yn dewis gofalu am blant a phobl ifanc – gan arbed llawer o arian i'r gwasanaethau cymdeithasol.  Gorffennodd drwy ddweud ei bod yn credu y dylai popeth gael ei wneud i gadw plant yn agos at eu teuluoedd, ond bod angen cymorth a bod angen pobl i'w helpu.

 

Gofal gan Berthnasau yng Nghymru – Y problemau presennol a ffordd ymlaen, Kathy S'Jacob, Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Cymru (AFA Cymru).

 

Rhoddodd Kathy gyflwyniad byr i AFA Cymru, a ffurfiwyd gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Plant Dewi Sant, ar ôl i Gymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain (BAAF) gau yr haf diwethaf.  Mae gwaith AFA Cymru yn cynnwys llinell ffôn i roi cyngor i aelodau'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol.  Mae'n datblygu ac yn darparu hyfforddiant, ac yn darparu gwasanaeth ymgynghori.

 

Tynnwyd sylw at rai meysydd sy'n peri pryder o ran gofal gan berthnasau yng Nghymru, yn enwedig y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer maethu, sy'n aml ddim yn gweithio i ofalwyr sy'n berthnasau. Yn ogystal, mae cyfraith achosion ac ymarfer gwaith cymdeithasol yn newid, ac mae angen i strwythurau'r Awdurdodau Lleol allu addasu i'r newidiadau hynny.  Dywedodd Kathy, er y gallai'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gael effaith gadarnhaol ar rôl gofalwyr sy'n berthnasau, mae pryderon y bydd y cyfnod o gyni sydd ohoni yn golygu bod llai o gymorth i ofalwyr sy'n berthnasau ac i warcheidwaid arbennig. Pwysleisiodd fod y plant a'r bobl ifanc sy'n derbyn gofal gan ofalwyr sy'n berthnasau wedi cael profiadau gwael iawn yn ystod eu blynyddoedd cynnar yn aml, ac y bydd angen i'r gofalwyr allu mynd i’r afael â'r ymddygiad heriol hwnnw, ac felly mae gwir angen am well cefnogaeth.

 

O ran y ffordd ymlaen, tynnodd Kathy sylw at bedwar newid sylfaenol sy'n digwydd yn Lloegr, y byddai AFA Cymru yn eu croesawu yma yng Nghymru:

 

1)    Rhoi ystyriaeth i unrhyw niwed y mae'r plentyn wedi'i ddioddef ac unrhyw risg o niwed yn y dyfodol i'r plentyn a allai gael ei achosi gan rieni neu berthnasau'r plentyn, neu unrhyw berson arall y mae'r awdurdod lleol yn ei ystyried yn berthnasol.

 

2)    Cyfeiriad penodol at anghenion presennol neu anghenion tebygol y plentyn yn y dyfodol.

 

3)    Asesiad o berthynas y darpar warcheidwad arbennig â'r plentyn yn awr ac yn y gorffennol.

 

4)    Asesiad o allu'r darpar warcheidwad arbennig i rianta, gan gynnwys:

-       Ei ddealltwriaeth o anghenion presennol y plentyn a'i anghenion tebygol yn y dyfodol, a gallu'r gwarcheidwad i ddiwallu'r anghenion hynny, yn enwedig unrhyw anghenion sydd gan y plentyn sy'n deillio o'r niwed y mae wedi'i ddioddef;

-       Ei ddealltwriaeth o unrhyw risg o niwed y gellid ei achosi i'r plentyn yn y dyfodol gan rieni'r plentyn, perthnasau'r plentyn neu unrhyw berson arall y mae'r awdurdod lleol yn ei ystyried yn berthnasol, yn enwedig o ran y cysylltiad rhwng unrhyw berson o'r fath a'r plentyn, a gallu'r gwarcheidwad i ddiogelu'r plentyn rhag y risg hwnnw;

-       Ei allu a'i addasrwydd i fagu'r plentyn hyd nes bod y plentyn yn cael ei ben-blwydd yn ddeunaw oed.

 

Hefyd, mae gwaith ar y gweill yng Nghymru i ystyried y posibilrwydd o ddatblygu Fframwaith Maethu Cenedlaethol.  Mae hyn yn golygu ymgynghori ar y ffordd ymlaen ar gyfer gofal maeth prif ffrwd a gofal maeth gan berthnasau.  Ar hyn o bryd, cydnabyddir bod problem o fewn y broses asesu.  Mae'r lleoliadau hyn yn aml yn fwy cadarnhaol nag y mae'r dull traddodiadol o asesu gofalwyr maeth yn ei awgrymu.  Mae'n bosibl bod hyn yn adlewyrchu pa mor anodd yw asesu a rhoi cyfrif am effaith gadarnhaol y berthynas sydd eisoes rhwng y plentyn ac aelodau o'r teulu, ee cariad at wyrion.

Mae hwn yn waith sydd ar y gweill ac sy'n cael ei gyfarwyddo gan Lywodraeth Cymru.

Trafodaeth:

 

Diolchodd Julie Morgan AC i bawb am eu cyfraniadau a dywedodd y byddai'n gwneud y mater hwn yn flaenoriaeth yn ystod tymor nesaf y Cynulliad.

 

Cymerodd Andrea'r Gadair a gwahoddodd sylwadau a chwestiynau o'r llawr.

 

Gofynnwyd i'r teidiau a'r neiniau ddweud rhagor am eu grŵp. Rhoesant wybod i bawb mai yng Nghaerdydd yr oedd eu canolfan ond eu bod yn croesawu gofalwyr o unrhyw ran o Gymru.  Roeddent yn cyfarfod yn fisol yn adeilad Unite yng Nghaerdydd. Dywedodd un o'r neiniau y cafodd wybod am y grŵp ar ôl gweld hysbyseb yn y South Wales Echo.  Nodwyd bod angen i ymwelwyr iechyd wybod am y Grŵp fel y gallent sôn amdano wrth deuluoedd newydd sy'n darparu gofal gan berthnasau. Andrea i ymchwilio i hyn. 

 

Dywedodd Ruth Lee o Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Caerffili y gallent helpu i hyrwyddo grwpiau cymorth gofal gan berthnasau. Hefyd, estynnodd wahoddiad i'r grŵp cefnogi teidiau a neiniau siarad yn un o gyfarfodydd rheolwyr y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Andrea i drefnu.

 

Dywedodd Arfon o Gobaith Cymru ei fod yn cefnogi pwynt Kathy ynghylch problem y broses asesu. Dywedodd ei bod yn hynod o bwysig bod y broses asesu hon mor gadarn â phosibl ar gyfer gweithwyr cymdeithasol.  Roedd yn gadarn o blaid lleoli plant gydag aelodau o'r teulu, ond mae'n rhaid cael proses asesu glir gan nad y dewis hwn fydd orau er lles y plentyn bob amser. Yn ogystal, gwnaeth y pwynt bod angen chwalu rhai o'r rhwystrau rhwng gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr sy'n berthnasau, ac y dylai pawb gael eu trin â pharch ac urddas.  Cytunodd Leigh â hyn, a dywedodd fod angen rhywun yn gefn ichi oherwydd yr ofn rydych chi'n ei deimlo.

 

Dywedodd Trevor Evans nad oedd y gwasanaethau cymdeithasol, ar y cyfan, yn dda iawn am gydnabod fod plant yn arbenigwyr ar eu bywydau eu hunain, nac o ran clywed a gwerthuso'r hyn y mae'r rhai agosaf at y plant hynny yn ei ddweud – diwallu anghenion y plentyn hwnnw yw'r peth pwysicaf o ddigon.

 

Pwysleisiodd Paula Stonelake o'r tîm cefnogi gofal gan berthnasau yn Rhondda Cynon Taf, fod yr ewyllys yno ymhlith gweithwyr cymdeithasol i gynnig y cymorth gorau posibl.  Fodd bynnag, y realiti yw nad yw eu llwyth gwaith bod amser y caniatáu digon o amser i wneud gwaith cymorth.

 

Soniodd Paula Daniel o Y Bont, fod angen taliadau interim i ofalwyr sy'n berthnasau ar yr adeg y caiff plentyn ei roi yn eu gofal. Dywedodd fod nifer y teuluoedd sy'n defnyddio banciau bwyd wedi codi'n sylweddol, bod teidiau a neiniau yn gorfod rhoi'r gorau i weithio i ofalu am eu hwyrion, a bod wythnosau'n mynd  heibio heb iddynt gael unrhyw fudd-daliadau.

 

Dywedodd Trevor Evans fod Cymdeithas Plant Dewi Sant yn darparu cymorth i deuluoedd ar ôl iddyn nhw fabwysiadu. Awgrymodd y gallai hyn ddigwydd yn achos grwpiau cymorth gofal gan berthnasau hefyd; hynny yw, maen nhw'n gwybod beth sy'n gweithio'n dda, felly beth am geisio gwneud yr un peth ar gyfer gofalwyr sy'n berthnasau.

 

Diolchodd Andrea i bawb am ddod, am eu cyflwyniadau ac am gyfrannu at y drafodaeth.